mwy...
Sgwrs Helen gyda GINO D'Acampo
Y cogydd enwog Gino D'Acampo gyda Helen Holland
yng ‘Ngŵyl Fwyd yr Wyddgrug’ yn 2008.
GINO: "Wyt ti wedi bod i’r Eidal Helen?"
HELEN: "Do, mi es i Rufain a Fenis i wneud gwaith ymchwil ar “hufen iâ”.
GINO: "Wyt ti’n gwybod pa un yw hoff “hufen iâ” yr Eidalwyr?"
HELEN: "Ai “cnau pistasio” ydi o?"
GINO: "Ie, wyt ti wedi ei flasu?"
HELEN: "Do, mae’n hyfryd!"
GINO: "Mae eich hufen iâ "Ffrwydriad Llus y Mynydd" hefyd yn Fantastico!"
"Ffrwydriad Llus y Mynydd" ... "Fantastico – fy hoff hufen iâ!" – meddai Gino
Helen Holland, Môn ar Lwy Gwraig fusnes y flwyddyn 2009
Môn a Gwynedd
mwy...
Môn ar Lwy, mae ein hufen iâ a wneir â llaw yn bleser pur!
Caiff ein hufen iâ o safon ei greu gyda llaeth ffres, hufen dwbl a ffrwythau
o’r ansawdd gorau, gan greu blas sy’n foethus ond eto yn gyfoes.
Yn tynnu dŵr o'r dannedd – blasau hufen iâ moethus a wneir â llaw!
Siocled
Profwch flas cynnil ein strafagansa siocled moethus; wedi’i wneud â hufen Cymreig ….. blas synhwyrus sy’n faldod pur ….
Ffrwydriad Llus y Mynydd
Defnyddir y llus mawr gwyllt mwyaf ffres i gyffroi’r blasbwyntiau yn yr hufen iâ crychdon blasus hwn - sy’n ffrwydro gydag egni …
Wisgi Cymreig a fanila
O fynyddoedd Cymru caiff blas atgofus Wisgi Cymreig ei gymedroli gan flas fanila; profiad blas hollol fythgofiadwy …