Môn ar Lwy
Lluniau hudol a dynnwyd o'r teulu ar Ynys Môn
Caiff gwir naws hudolus Môn
ei ail-ddal ym Môn ar Lwy
Rhowch ganiad i ni neu cysylltwch â ni drwy e-bost neu fe allwch gwblhau’r Ffurflen Gysylltu os ydych angen gwybodaeth bellach ynglŷn â’n cynhyrchion.
Mae mwy a mwy o bobl â diddordeb yn nharddiad eu bwyd ac ansawdd yr hyn a roddwn ar ein platiau. Mae pob swp o hufen iâ Helen a wneir â llaw wedi’u gwneud mewn sypiau bychan heb arbed unrhyw gost na thorri corneli. Dim ond y cynhwysion o’r ansawdd gorau a ddefnyddir i greu profiad blas ac ansawdd hyfryd ac anhygoel.

Parlwr hufen iâ bychan yn sgwâr Caernarfon o’r enw ‘Bertorelli’ a gyflwynodd Helen i’w brwdfrydedd gydol oes am hufen iâ moethus o’r safon uchel gyntaf. Hen Eidalwr bonheddig oedd y perchennog, a phan yn aros gyda’i nain a’i thaid yn Twthill yn ystod ei gwyliau ysgol, ei huchafbwynt oedd cael mynd i’r parlwr. “Yn anffodus roedd yn arfer bod yn grintachlyd iawn gyda’i hufen iâ ac fe weddïwn cyn mynd i mewn i’r siop y byddai mewn tymer dda haelionus.”

Mae Helen y Rheolwr Gyfarwyddwr wedi ymgymryd â phob rôl o fewn y busnes. Heddiw, yn y dyddiau anodd a heriol hyn mae Helen wedi troi Môn ar Lwy yn fusnes proffidiol.
Felly pam na wnewch chi chwilio yn eich siopau lleol am hufen iâ hudolus, llawn blas, sy’n codi’ch calon, yn llawn o’r cynhwysion mwyaf danteithiol y gellir eu dychmygu’r flwyddyn hon. Dylai’r potiau argraffiadau cyfyngedig fod ar silffoedd eich delis lleol, siopau siocled, siop fferm, Spar a Londis nawr. 

Yn sgil angen cwbl bersonol mae hi wedi gallu cynhyrchu hufen iâ o safon mor uchel fel yr enillodd Gwobr Gwir Flas y llynedd. Mae Helen yn sicr na fydd blas gwych yn mynd allan o ffasiwn. Ni cheir dim byd tebyg i gynnyrch gwobredig a wneir â llaw artisan.
Mae Môn ar Lwy yn wahanol i’r arfer gyda’i hufen iâ moethus - yn beiddio gwthio’r ffiniau gyda blasau arloesol sydd wir yn gweithio. Caiff blasau unigryw eu creu gydag arloesedd a chreadigrwydd sydd hefyd yn rhoi blasau traddodiadol i gwsmeriaid.
Cliciwch ar segment isod
i gael rhestr o gynhwysion.
cynhwysion - ingredients
Y broses o gynhyrchu hufen iâ moethus
Cliciwch y rhifau i weld  lluniau o ddechrau'r 
'Broses o Gynhyrchu'
hufen iâ.
1        2         3
Cliciwch yma i weld lluniau hudol a dynnwyd o’r teulu ar Ynys Môn
Enw:
E-bost:
Sylwadau:
Teipiwch eich neges yn y blwch yma.
Teipiwch y DDAU AIR i mewn i'r blwch isod, a chlicio ANFON.
Cliciwch y botwm AILOSOD 
i glirio'r ffurflen.
Dylunio Gwe:  Pobol y We
Caiff harddwch naturiol a chyfaredd pur Môn ei adlewyrchu yn hufen iâ moethus gwir hudolus Helen a wneir â llaw a fydd yn cael ei wneud ar y fferm yn y dyfodol.

Mae Helen wedi pwysleisio hunaniaeth Gymreig gref ar ei brandio. Dim ond cynhwysion o’r ansawdd gorau o Fôn neu Gymru a ddefnyddir. Mae’r cwmni wedi’i ymrwymo i gefnogi busnesau lleol i ddod yn gynaliadwy.
Bwriad y cwmni yw rhagori ar ddisgwyliadau’r cwsmer.

Mae arfordir hyfryd a chefn gwlad garw Môn yn lle delfrydol i gael hyd i’r bwyd gorau y gall Cymru ei gynnig. Cafodd Ynys Môn ei hadnabod yn yr Oesoedd Canol fel mam Cymru oherwydd bod ei chaeau ffrwythlon yn ffurfio’r fasged fara i ogledd Cymru. Heddiw mae defnyddwyr wedi datblygu taflod soffistigedig. Maent yn prysur sylweddoli ei bod yn well cael cyfran fechan o rywbeth arbennig a danteithiol na digonedd o gynnyrch di-flas, rhad a masnachol.
Fferm Ty'n Rallt
Trefdraeth
Bodorgan
Ynys Môn
LL62 5HL
 

Ffôn:  01407 840178

Symudol:  07919 455 652
Gwe: